Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwerthin blodau amryliw. Ond ar bob ochr cyfyd y llethrau coediog yn serth a thawel, ac uwchben saif aml "fynydd llonydd llwyd." Lle unig yw Roncesvalles, a chul iawn yw genau'r bwlch hwn ym mynyddoedd y Barwynion. Ynddo, yn yr wythfed ganrif, medd y chwedl, y syrthiodd y gwron Roland a llu o farchogion gorau Siarlymaen, Ymherodr Ffrainc.

Bu Siarlymaen a'i fyddin am saith mlynedd yn ymladd yn Ysbaen ac yn goresgyn dinasoedd y paganiaid. O'r diwedd nid oedd ond dinas Saragosa heb ei choncro, ac yr oedd ofn ar Farsiles, brenin y ddinas honno. Galwodd ei fyddin fawr, dros ugain mil o wŷr, at ei gilydd, a gofynnodd am gyngor i'r arglwyddi.

"Y mae Siarlymaen a'i fyddin yn cau amdanom," meddai. "Beth a wnawn ni?"

Bu distawrwydd hir, ac yna atebodd Blancandrin, un o'r marchogion hynaf.

"Paid ag ofni, O Frenin," meddai, "oherwydd y mae gennyf gynllun. Gyrr negeswyr at Siarlymaen gan gynnig iddo anrhegion gwerthfawr, eirth a chŵn a llewod, saith gant o gamelod, aur ac arian ar bedwar cant o fulod, ceffylau chwim a pherlau a gwisgoedd drud. Dywed wrtho, ond iddo ymadael o'r wlad, y byddi dithau'n ei ddilyn i Ffrainc ac yn troi'n Gristion. Felly fe'th wna di'n frenin, odditano ef, ar Ysbaen i gyd."

Derbyniodd y brenin Marsiles y cyngor, ac yn fuan ymadawodd deg o'i arglwyddi i gyflwyno'r neges i