Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Siarlymaen. Yn eu dwylo, fel arwydd o heddwch, yr oedd brigau'r olewydd, a marchogent ar geffylau claerwyn, pob un â ffrwyn o aur a chyfryw o arian.

Gorffwysai Siarlymaen a'i bymtheng mil o filwyr mewn perllan fawr, y brenin yn y canol ar orsedd o aur, a chydag ef ei ddau filwr dewraf, Roland ac Olifer. Penliniodd y paganiaid o'i flaen a siaradodd Blancandrin drostynt.

"Henffych iti, O Ymherodr," meddai. "Negeswyr ydym oddi wrth Marsiles, brenin Saragosa. Dymuna iti ddychwelyd i'th wlad dy hun a chynnig iti drysorau ac anifeiliaid lawer. Daw yntau ar dy ôl i Ffrainc a thry'n Gristion."

Plygodd Siarlymaen ei ben i feddwl ynghylch y geiriau cyn ateb.

"Gwn yn iawn," meddai ymhen ennyd, "fod eich brenin, Marsiles, yn fy nghasáu. Pa sicrwydd sydd gennyf y ceidw at ei air?"

"Rhown feichiafon iti," oedd ateb Blancandrin. "Bydd fy mab i fy hun yn un ohonynt a chei eu lladd oni cheidw'n brenin ei addewid."

Rhoddwyd pabell i'r cenhadon gysgu'r nos, a'r bore wedyn galwodd Siarlymaen ei arglwyddi i gyngor.

"Paid â derbyn y cynnig," meddai Roland, nai i'r Ymherodr. "Yr ydym yn Ysbaen ers saith mlynedd, ac ni fu dinas a allodd ein gwrthsefyll. Gwyddom mai bradwr yw Marsiles, ac y mae rhyw gynllun cyfrwys y tu ôl i'w addewidion."