Yna camodd Ganelon, un arall o'r arglwyddi, ymlaen at orsedd Siarlymaen. Gŵr balch oedd hwn, ac yn elyn i Roland.
"Fy Mrenin," meddai, "paid â gwrando ar gynghorion ffyliaid. Gan fod Marsiles yn barod i ymostwng iti, derbyn ei gynnig."
Yr oedd llawer o'r arglwyddi hynaf o blaid hyn, ac felly penderfynodd yr Ymherodr yrru negesydd i Saragosa.
"Pwy a gaf i'w yrru'n negesydd at Farsiles?" gofynnodd.
"Fi," meddai Roland. "Mi hoffwn i'n fawr gael mynd."
"Na," meddai ei gyfaill, Olifer, "yr wyt ti'n rhy wyllt o lawer i fod yn negesydd heddwch. Mi af fi."
Cynigiodd amryw o'r arglwyddi fynd, ond yr oedd Siarlymaen yn rhy hoff ohonynt i adael iddynt fentro i ddwylo Marsiles.
"Beth am Ganelon, ynteu?" gwaeddodd Roland. "Gan mai ef sy'n ein cynghori i dderbyn y cynnig, ef a ddylai fynd â'r newydd i Farsiles."
Yr oedd ofn ar Ganelon pan glywodd hyn, oherwydd gwyddai y byddai ei fywyd mewn perygl yn llys Marsiles.
"Ganelon," meddai'r Ymherodr, "cyfrwya dy geffyl a dos at Farsiles. Os mynn droi'n Gristion caiff hanner Ysbaen i lywodraethu arni; rhoddaf yr hanner arall