i'm nai, Roland. Os gwrthyd, dywed wrtho y rhuthra fy myddin ar furiau Saragosa ac y llusgaf ef gyda mi mewn cadwynau i Ffrainc, ac yno y torraf ei ben."
Ar ei geffyl hardd ac yn ei wisg ddisglair o haearn aeth Ganelon ar ei daith. Yr oedd arswyd yn ei galon a gwnaeth lw y talai'n ôl i Roland am hyn.
Ar orsedd o aur pur, a'i fyddin fawr o'i amgylch, eisteddai Marsiles i glywed ei neges.
"O Frenin," meddai Ganelon, "dymuna Siarlymaen iti droi'n Gristion, ac yna cei reoli hanner Ysbaen. Yr hanner arall a rydd ef i'w nai balch a byrbwyll, Roland. Oni chytuni, fe'th lusgir i Ffrainc mewn cadwynau a thorrir dy ben."
Gwylltiodd Marsiles pan glywodd y geiriau hyn a chydiodd mewn picell finiog gan feddwl ei thaflu at Ganelon. Neidiodd rhai o'r arglwyddi ato i'w dawelu. Â'i law ar ei gledd safodd Ganelon yn eofn i wynebu'r brenin.
Galwodd Marsiles rai o'i arglwyddi o'r neilltu o dan bren olewydd, ac wedi iddo ymgynhori â hwy, arweiniwyd Ganelon ato.
"Negesydd," meddai â gwên, gan roddi mantell werthfawr o groen yn anrheg iddo, "hoffwn inni fod yn gyfeillion. Y mae Siarlymaen erbyn hyn yn hen a musgrell: onid yw'n bryd iddo ddychwelyd i Ffrainc a gorffwys ar ôl ei ryfeloedd hir? Pa bryd y blina ar ymladd?"