Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dewraf ar ôl i wylio'r cymoedd rhag ofn i fyddin y Saraseniaid eu dilyn yn ddistaw bach.

Pan gredent fod yr Ymherodr a'i lu yn ddiogel, symudodd Roland a'i farchogion dewr ymlaen yn araf, gan daflu golwg aml yn eu holau. Tros y bryniau creigiog a thrwy'r dyffrynnoedd tywyll teithiasant drwy'r dydd a thrwy'r nos. Pan dorrai gwawr yr ail ddydd yr oeddynt yng nghwm cul ac unig Roncesvalles. Carlamodd Olifer i fyny ochr un o'r bryniau gan edrych o'i gwmpas ar y llethrau o amgylch y cwm. Yn sydyn, gwelai belydrau'r haul drwy'r coed yn chwarae ar arfau disglair ym mhobman, ac yn ôl i gyfeiriad Ysbaen yr oedd miloedd o faneri'n agosáu. I ffwrdd ag ef fel mellten i lawr at Roland a'r marchogion eraill.

"Y mae miloedd ar filoedd o Saraseniaid yn y coed hyd lethrau'r bryniau," meddai, "ac y mae byddin fawr o'n hôl. Deuant ar ein gwarthaf yn fuan iawn."

"O'r gorau," meddai Roland â thân rhyfel yn fflachio yn ei lygaid, "gad iddynt ddod."

"Ond y mae ganddynt ugain milwr am bob un ohonom ni," meddai Olifer. "Chwyth dy utgorn mawr fel y clyw Siarlymaen a'r fyddin am ein perygl."

"Na," meddai Roland, "ni chaiff neb ddweud mai llwfr fu marchogion Siarlymaen. Os marw sydd raid, byddwn farw yn herio'r gelyn."

Erbyn hyn caeai'r gelynion amdanynt, a gwelid fflach eu dur ar bob craig a thrum. Llifai eu miloedd fel