Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhaeadr dros lethrau'r cwm. Arweiniai Roland, Olifer a'r Archesgob Tyrpin farchogion Siarlymaen, ac â'u cri yn uchel yn y gwynt rhuthrasant i wynebu'r gelyn.

Ni fu ymladdfa fel hon erioed o'r blaen. Syrthiai dynion a cheffylau'n bendramwnwgl i'r llawr a thorrai tarian a chledd a gwaywffon yn yfflon yn yr ornest. Yr oedd sŵn y gâd fel taranau'r ystorm yng nghreigiau'r mynyddoedd. Teirgwaith y ciliodd y gelynion o flaen marchogion dewr Siarlymaen, ond o'r llethrau coediog deuai miloedd o filwyr eraill i ymosod arnynt. Un ar ôl un, syrthiodd gwroniaid Ffrainc i'r llawr, a chyn hir nid oedd ond rhyw drigain ohonynt i herio'r miloedd.

Rhoes Roland ei utgorn mawr o ifori cerfiedig wrth ei wefusau. Chwythodd unwaith, a chrwydrodd y sŵn dros y mynyddoedd pell i glustiau Siarlymaen. Chwythodd eilwaith, a chododd llawer eryr o'i nyth gan ddianc mewn dychryn. Chwythodd y trydydd tro, a llifai gwaed o'i geg a thros ei wisg hardd o haearn.

Yn y pellter, arhosodd Siarlymaen ar ei daith.

"Utgorn Roland!" meddai. "Y mae mewn perygl."

"Na," meddai Ganelon, "cellwair y mae. Efallai ei fod yn hela yn y mynyddoedd."

Fel cri o boen ymhell, daeth y sŵn eilwaith i glustiau Siarlymaen. Syrthiodd ei lygaid ar Ganelon a gwelodd euogrwydd y bradwr yn ei wyneb.

"Rhwymwch Ganelon," oedd ei orchymyn i'r milwyr, "a chaner holl utgyrn y fyddin. Awn yn ôl ar unwaith!"

* . . * . . * . . *

Yn Roncesvalles nid oedd ond tri marchog yn fyw—