Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Roland, Olifer, a'r Archesgob Tyrpin. Fel tonnau'r môr y rhuthrasai'r paganiaid arnynt, ac yn awr syllai Roland â dagrau yn ei lygaid ar y milwyr dewr a orweddai'n farw ar y maes. Yna gwelodd fod Olifer wedi ei glwyfo ac mewn perygl o gael ei ladd, a charlamodd yn wyllt drwy'r gelynion at ei ochr. Wedi ei ddallu gan waed, ni wyddai Olifer mai Roland a ruthrai ato, a chan feddwl mai gelyn oedd, trawodd ef ar ei helm gan ei glwyfo'n enbyd. Yna syrthiodd Olifer i'r llawr gan farw a'i wyneb tua'r Dwyrain.

Ochr yn ochr, carlamodd Roland a'r Archesgob Tyrpin i ganol y gelynion gan ladd llawer ohonynt. Tros y mynyddoedd deuai sŵn utgyrn Siarlymaen yn nes o hyd, ac mewn dychryn ffoes y paganiaid i gyfeiriad Ysbaen.

Wedi ei glwyfo â llawer picell fain, gorweddodd yr Archesgob i farw ar y glaswellt a oedd erbyn hyn yn goch gan waed. Ymlusgodd Roland o dan bren pinwydd gerllaw, gan roi ei ben i orwedd ar ei geffyl marw a throi ei wyneb tuag Ysbaen. Llithrodd ei gleddyf enwog, Durendal, o'i law, ond cydiodd ynddo drachefn gan benderfynu nad âi hwnnw i ddwylo'r paganiaid. Wrth ei ymyl yr oedd craig gadarn, a medrodd godi gan afael yn dynn yn ei gleddyf â'i ddwy law. Yna trawodd y graig â'i holl egni gan feddwl malurio'r cleddyf. Holltodd y graig fawr yn ddwy, ond nid oedd y cleddyf fymryn gwaeth. Hyd heddiw dangosir yr hollt yn y graig lle y syrthiodd ergyd olaf Roland.

Disgynnodd y gwron yn farw dros ei geffyl llonydd, ac yno, o dan bren pinwydd tal, â'i wyneb tuag Ysbaen, y darganfu Siarlymaen ef. Nid hir y bu'r Ymherodr