a’i fyddin cyn dial y cam ar Farsiles a'i filwyr, ac yr oedd marw enbyd yn aros Ganelon, y bradwr.
* . . * . . * . . *
Dyna i chwi'r chwedl. Erys y cwm unig ym mynwes y Barwynion o hyd, a phed aech chwi yno, fel yr aeth un bardd Cymraeg yn ddiweddar, teimlech chwithau fawredd tawel y mynyddoedd niwlog. Ni thyrr ond bref gwartheg, cyfarth ci, a chlychau'r defaid, ar hedd y cwm.
Edrych y bardd, Mr. Iorwerth Peate, ar y mynyddoedd mawr. Tybed a gofiant hwy ddigwyddiadau'r hen chwedl?
"Fynyddoedd llwyd, a gofiwch chwi
Helyntion pell y dyddiau gynt?"
Ac etyb y mynyddoedd:
"Nid ydynt bell i ni, na'u bri
Yn ddim ond sawr ar frig y gwynt.
Ni ddaw o'n niwl un milwr tal
O'r hen oes fud i Roncesvalles."
Atgoffa'r bardd hwy am Siarlymaen, Roland a'i wŷr, mawredd Ffrainc a gwychder Ysbaen, ond dyma'r ateb a ddaw o'r mynyddoedd:
"Niwloedd a nos, y sêr a'r wawr,
Yn Roncesvalles y rhain sy fawr."
Ond os anghofiodd y mynyddoedd y stori, erys y chwedl hyd heddiw mewn llawer gwlad a llawer iaith.