Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Beibl? Yn ôl y chwedl, yr oedd yn ddinas santaidd a godwyd gan y duwiau, Neifion ac Apolo. O'i hamgylch yr oedd muriau cedyrn, llydain, a milwyr mewn gwisgoedd o haearn yn cerdded hyd-ddynt o dŵr i dŵr i wylio rhag pob gelyn. Yn y muriau yr oedd pyrth yn arwain i'r ystrydoedd heirdd a llydain, a chlwyd fawr ym mhob porth i'w cau yn y nos, ac yn y dydd hefyd pan oedd gelynion yn bygwth.

Enw brenin y ddinas hon oedd Priam, ac yr oedd ganddo amryw feibion. A wnewch chwi gofio enwau dau ohonynt? Un oedd Hector, milwr dewraf a chryfaf Caer Droea, arwr ac arweinydd y fyddin. Y llall oedd Paris, gŵr ieuanc mor hardd ei bryd fel y syllai'r duwiesau mewn syndod ar ei brydferthwch. Yr oedd glâs y môr yn ei lygaid ac aur y wawr yn ei wallt. I Baris rhoes un o'r duwiesau yr hawl i ddewis y ferch dlysaf yn y byd yn wraig. Hwyliodd dros y môr i wlad Groeg, gan aros yn nhŷ Menelaos, brenin Sparta, dinas bwysig yn y wlad honno. Syrthiodd mewn cariad â Helen, gwraig Menelaos a'r dlysaf o ferched y byd, a thrwy gymorth y dduwies cymhellodd. hi i adael ei gŵr a'i merch fach a mynd gydag ef i Gaer Droea.

Yr oedd Menelaos yn wyllt, a galwodd at ei gilydd holl frenhinoedd Groeg. Yn fuan casglwyd byddin fawr, rhyw gan mil o wŷr, a chychwynasant yn eu llongau i gyfeiriad Caer Droea. Dacw hwy'n mynd dros y môr peryglus, yr hwyliau cyn wynned â'r eira,