Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaen pob llong wedi ei addurno ag aur, a'r rhwyfwyr cryfion yn tynnu â holl nerth eu gewynnau. Yn sydyn, ar eu llaw dde, dacw fflachiadau'r mellt, arwydd bod Iau, y prif dduw, o'u plaid ac yn dymuno'n dda iddynt ar eu taith. Teimlai Agamemnon, arweinydd y fyddin a brawd Menelaos, mai gwaith hawdd fyddai gorchfygu Caer Droea, llosgi'r ddinas i'r llawr a dwyn Helen yn ôl i'w chartref yng Ngroeg.

Ond nid felly y bu. Aeth naw mlynedd heibio, a byddin y Groegiaid o hyd y tu allan i furiau Caer Droea yn ceisio ennill y ddinas, ac yn methu. Yn ystod y naw mlynedd fe laddwyd cannoedd o bob ochr, a hiraethai llawer o'r Groegiaid am eu gwlad a'u cartrefi. Yn y nawfed flwyddyn aeth pethau o ddrwg i waeth trwy i ffrae ddigwydd rhwng Agamemnon, brenin ac arweinydd y Groegiaid, ac Achiles, eu milwr dewraf a chryfaf. Mewn dig, ciliodd Achiles o'r frwydr.

Achiles yw arwr cerdd ardderchog Homer. Mab oedd i un o frenhinoedd Groeg, ond y dduwies Thetis, merch i dduw'r môr, oedd ei fam. Wedi ei eni, aeth y dduwies ag ef i Annwn ac yno gollyngodd ef wrth ei sawdl i Afon y Cysgodion, fel na allai cleddyf na saeth nac unrhyw arf glwyfo'i gorff. Magwyd ef gan ei dad, a'i fwyd oedd calonnau llewod, a chig eirth ac anifeiliaid gwylltion eraill. Yn fachgen, gallai ladd llewod, a rhedeg fel yr hydd, ond gallai hefyd ganu'r delyn, a chanu ei hun fel eos.