Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hawddgar a thros ei ddillad gwerthfawr lluchiodd lwch a lludw, fel dyn yn colli arno'i hun. Fe'i taflodd ei hun ar lawr, gan dynnu ei wallt o'r gwraidd a griddfan dros y lle. Cymaint ei dristwch fel yr ofnai'r milwr ei weld yn claddu ei gleddyf yn ei fynwes ei hun.

I lawr yn nyfnder y moroedd clywodd ei fam, y dduwies Thetis, ef yn wylo, a brysiodd ato i'w gysuro.

"Achiles, fy mab," meddai'r dduwies, "paham yr wyt ti'n wylo? Paham y torri dy galon fel hyn?"

"Mae fy nghyfaill anwylaf wedi ei ladd," oedd ateb Achiles, "ac aeth y wisg o haearn a roddais iddo'n fenthyg, y wisg ryfel a roes y duwiau i'm tad, i feddiant Hector."

"Aros yma wrth y llongau," meddai'r dduwies, "a phaid â mentro i'r frwydr nes i mi ddyfod yn ôi. Gyda'r wawr yfory dychwelaf â gwisg o haearn ac arfau wedi eu gwneuthur gan Fwlcan ei hun, Fwlcan, gof y duwiau."

Ac i ffwrdd â'r dduwies i geisio'r ffafr hon gan Fwlcan.

Cyn hir syrthiodd yr haul i'r môr, a thrwy'r nos faith wylodd Achiles uwch corff ei gyfaill, Patroclus. Tyngodd na fwytâi ac nad yfai hyd nes dial y cam ar Hector; tyngodd hefyd na chleddid Patroclus hyd nes gorwedd o Hector yn farw wrth ei ochr.

Bore trannoeth, cyn gynted ag y daeth golau melyn y wawr i nef y dwyrain, safodd ei fam, y dduwies Thetis, wrth ochr Achiles gan roddi o'i flaen y wisg