hunain i'r dyfroedd, a'r lli chwyrn yn eu hysgubo gydag ef. Bu bron i Achiles ei hun golli ei fywyd yn y tonnau, oherwydd yr oedd duw yr afon yn ddig wrtho am ruddo'r dwfr pur â gwaed ei elynion.
Ar dŵr uchel yn ninas Caer Droea syllai'r hen frenin Priam mewn braw ar y difrod a wnâi Achiles. Rhoes orchymyn i agor y pyrth led y pen er mwyn i'w filwyr gael dianc i'r ddinas am loches. Felly fe lifodd y fyddin trwy'r pyrth, pob milwr yn dianc am ei fywyd. Pob un? Na, arhosodd un y tu allan, â'i darian yn erbyn y mur, i wynebu Achiles. Hector oedd y milwr hwn, er bod ei dad a'i fam ar y mur uwchben yn erfyn arno ddianc.
Caewyd y pyrth, a gwelai Hector Achiles yn agosáu'n gyflym, ei wisg arfog yn fflachio fel yr haul a'i fraich gref yn dal y waywffon anferth yn yr awyr. Yn sydyn daeth ofn i galon Hector, a throes i ddianc gan redeg hyd ochr y mur. Fel cudyll yn erlid colomen y rhuthrodd Achiles ar ei ôl, a theirgwaith y rhedodd y ddau o amgylch muriau Caer Droea. Y pedwerydd tro daeth un o'r duwiesau i lawr atynt gan gymell Hector i wrthsefyll y Groegwr. Hyrddiodd Achiles ei waywffon fawr ato, a suddodd y blaen miniog i'w wddf gan ei fwrw i'r llawr.
"Achiles," meddai Hector, a phrin y gallai anadlu, "erfyniaf arnat roi fy nghorff i'm rhieni i'w gladdu ag anrhydedd yng Nghaer Droea. Cei aur ac anrhegion lawer ganddynt."