Ond cofiai Achiles am ei gyfaill, Patroclus, a thynodd y wisg o ddur oddi am Hector a chlymodd ei elyn marw wrth ei gerbyd rhyfel. Yna chwipiodd y ceffylau chwim, a llusgodd y corff hyd y gwastadedd i gyfeiriad y llongau. Uwchben, ar furiau Caer Droea, yr oedd calon yr hen frenin Priam ar dorri, ond gofalodd y duwiau na niweidiwyd corff Hector o gwbl.
Rhoddwyd Hector i orwedd wrth ochr elor Patroclus, ac o'u hamgylch aberthodd y Groegiaid wartheg a defaid a geifr i'r duwiau. Trannoeth, torrwyd cannoedd o goed ar lethrau mynydd Ida gerllaw, ac ar y pentwr anferth a godwyd â hwynt y rhoddwyd corff Patroclus i'w losgi. Chwythodd gwynt y gogledd a gwynt y gorllewin ar y goelcerth trwy'r nos, ac yr oedd rhu'r fflamau fel taran y môr ar greigiau mawr. Ac yn ymyl safai Achiles yn tywallt ar y ddaear win o gwpan aur. Pan ddaeth y bore, casglwyd llwch Patroclus i wrn o aur, a threuliwyd y gweddill o'r dydd, yn ôl arfer y cyfnod hwnnw, mewn chwareuon a gorchestion rhyfel.
Daeth nos a chwsg i'r gwersyll, ond gorweddai Achiles yn drist gan wylo am ei gyfaill, Patroclus. Ni ddôi cwsg iddo ef, a chododd i grwydro'n aflonydd hyd y draethell unig. Gyda'r wawr, rhwymodd Hector wrth ei gerbyd rhyfel a rhuthrodd deirgwaith o amgylch y cruglwyth lle y llosgwyd Patroclus. Am ddeuddeng niwrnod, heb gysgu na bwyta, bu Achiles yn galaru am ei gyfaill, a phob bore llusgwyd Hector