Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III—IOSEFF

(Stori o'r Beibl)

YN y ddwy bennod ddiwethaf daethom o hyd i rai o chwedlau Groeg, ond awn yn awr ymhellach i'r dwyrain i chwilio am storïau gwlad fechan arall. A gawn ni gymryd arnom ein bod yn byw ryw ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, tua'r amser pan oedd Crist ar y ddaear? Hwyliwn mewn llong o borthladd Athen yng ngwlad Groeg, llong go fach a dynion cryfion yn tynnu yn y rhwyfau mawr, gwŷr â'u hwynebau wedi eu melynu gan haul y dwyrain a'u rhychu gan wyntoedd y môr. Gadawn wlad Groeg yn gyflym ond nid ydym yn hir o olwg tir. Ar ein llaw chwith y mae mynyddoedd yn y pellter, mynyddoedd y buasai'n rhaid inni eu croesi pe baem heb ddewis teithio mewn llong, ac awn heibio i lawer ynys brydferth yn cysgu'n dawel yng nglesni'r môr. Ar ôl rhai dyddiau moriwn heibio i ynys fawr Cyprus ac yna trown i'r deau. Tynn y llongwyr yn y rhwyfau â mwy o egni nag erioed, ac y mae gwên hapus ar eu hwynebau.

"Byddwn ym mhorthladd Iaffa cyn hir," meddant, "ac ni welsom ein gwragedd a'n plant ers wythnosau lawer. Y mae gennym hanesion am y môr ac am wledydd dieithr i'w hadrodd wrthynt."

Dyma ni ym mhorthladd Iaffa yng gwlad Canaan, a brysiwn i mewn i'r tir i gyfeiriad y mynyddoedd acw