Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sy'n codi yn y pellter. Ar y ffordd sylwn ar lawer o bethau na welsom mohonynt erioed yng Nghymru. Awn heibio i farchnadwyr yn gyrru eu camelod llwythog, rhai i lawr i Ierwsalem a'r Aifft, ac eraill i fyny i Ddamascus a Syria. Gwisgant sidanau prydferth, ac y mae sandalau o ledr am eu traed. Weithiau ceir cymaint â chant o gamelod dan eu gofal, heblaw llawer o asynnod yn cario crwyn mawr yn llawn o ddŵr. Cludant ddŵr am fod amryw o'r ffynhonnau wedi sychu, ac y mae dŵr yn ddrud i'w brynu gan y rhai sy'n ei werthu ar ochr y ffordd.

Beth sydd gan y marchnadwyr hyn? Porffor enwog Tyrus, pysgod o Fôr Galilea, haearn a chopr o fryniau Lebanon, balm o Gilead, halen o'r Môr Marw, platiau o Fabilon, sandalau o Laodicea, gwisgoedd o India, sidanau a pheraroglau ac aur o Arabia a'r dwyrain, melysion o'r Aifft, gwlân a ffrwythau'r olewydd o'r llethrau ger yr Iorddonen-y mae pob math o nwyddau ar gefnau'r camelod. Gwelwn hefyd Arabiaid croenddu ar eu ffordd i dref a marchnad, a rhuthra cerbyd rhyfel Rhufeinig heibio inni a helm y milwr yn disgleirio yn yr haul. Ar fin y ffordd mewn cytiau o glai â brigau'r olewydd wedi eu plethu ar eu toau, y mae amryw fynaich, a chlywn o dro i dro rai cannoedd o gardotwyr â lleisiau uchel, croch, yn erfyn am dosturi.

Sylwch ar y coed; y maent yn wahanol i goed Cymru. Edrychwch ar bren uchel, tywyll, y cypres yn codi'n fain fel tŵr eglwys i'r nef, ar yr olewydd a'i