Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

brigau arian uwch y boncyff anferth, rhychiog, ar y palmwydd tal, llonydd, ac ar y gwinwydd ar lethrau'r bryniau a phentyrrau'r grawnwin yn hongian arnynt. Y mae aroglau coed y lemon hefyd yn yr awel.

Ond dyma ni yn y mynyddoedd, ac y mae'r awyr yn iach a thyner, er bod ambell wth o wynt yn chwythu cwmwl bach o dywod weithiau o'r anialwch draw. Ymunwn â'r bugeiliaid sy'n eistedd i gael pryd o fwyd o dan y coed acw. Teisennau o wenith wedi eu trochi mewn olew a fwytânt a physgod wedi eu sychu a'u halltu, ond y mae ganddynt hefyd ddigonedd o ffigys a chnau. Eisteddant ar fryn uwchlaw Sichem, dinas yn cysgodi o dan graig anferth. Wrth fwyta adroddant hanesion wrth ei gilydd, ac am stori dda rhai campus yw'r bugeiliaid hyn. Awn atynt a gofynnwn iddynt am stori.

"O'r gorau," medd un ohonynt, "cewch glywed am fachgen o'r enw Ioseff, a werthwyd yn yr ardal hon i farchnadwyr ond a ddaeth yn Brif Weinidog gwlad fawr ymhell oddi yma."

Gorweddwn ninnau i lawr o dan y coed i fwyta ffigys ac i wrando ar y stori.

Gyrrwyd ef i'r bryniau hyn (medd y bugail) gan ei dad i chwilio am ei frodyr. Flynyddoedd cyn hynny prynasai ei dad, Iacob, ddarn o dir i fyny yma cyn symud i fyw i'r deau yn Hebron, a phan âi'r borfa'n brin yn Hebron, arweiniai ei feibion y praidd yma i Sichem. Ond arhosai Ioseff a'i frawd ieuangaf,