Ni bu'n hir yn y carchar cyn ennill serch a pharch y ceidwad, a rhoes hwnnw'r carcharorion oll o dan ei ofal. Siaradai Ioseff yn gyfeillgar â hwy, a daeth i adnabod dau ohonynt yn dda. Bwtler y brenin oedd un, a phrif bobydd y llys oedd y llall. Eglurodd iddynt. ystyr eu breuddwydion, gan ddywedyd y crogid y pobydd ymhen tri diwrnod ond yr adferid y bwtler i'w swydd ym mhlas y brenin. Dri diwrnod wedyn, ar ŵyl a gynhelid i ddathlu pen-blwydd Pharo, daeth proffwydoliaeth Ioseff yn wir, ac wrth ymadael â'r carchar, addawodd y bwtler y gwnâi bopeth a allai i'w ryddhau yntau.
Ond yn rhwysg a difyrrwch y llys anghofiodd y bwtler yn lân am Ioseff, a threiglodd dwy flynedd hir heibio ac yntau'n garcharor o hyd. Yna, un dydd, galwodd ceidwad y carchar yn gyffrous arno.
"Tyrd ar frys," meddai. "Y mae milwyr a gweision o'r llys yn aros amdanat."
Yn ystafell y ceidwad eilliwyd wyneb Ioseff yn lân, torrwyd ei wallt a rhoddwyd iddo wisg o liain prydferth yr Aifft. Gadawodd dawelwch a thywyllwch y carchar a rhodiodd drwy'r ystrydoedd heulog i gyfeiriad plas Pharo. Arweiniodd y milwyr ef yn gyflym drwy erddi'r plas, heibio i lawer ffynnon gerfiedig, a'u dŵr, wrth godi a disgyn, yn troi'n gawodydd o berlau gloyw yn yr heulwen. Cerddai Ioseff fel gŵr mewn breuddwyd rhwng dwy res o balmwydd mawr, ac yna heibio i gerfluniau o ifori nes cyrraedd grisiau o farmor