gorsen ac arni saith tywysen lawn a theg, ond yn fuan llyncwyd hwy gan saith o dywys mân a gwywedig."
Ni phetrusodd Ioseff ddim cyn ateb.
"Yr un un yw'r ddau freuddwyd," meddai. "Trwy wlad yr Aifft daw saith mlynedd o lawnder a digonedd, ond llyncir eu braster gan saith mlynedd o brinder a newyn. Deifia'r haul yd y meysydd, ac ni chyfyd yr afon i ddyfrhau'r dolydd a'r gerddi. Gan hynny, edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef yn bennaeth ar yr Aifft. Cadwed y gŵr hwnnw a'i swyddogion bumed ran o gnwd y wlad bob blwyddyn am saith mlynedd, fel na ddifether yr Aifft ym mlynyddoedd y newyn."
Siaradai Ioseff yn ddwys a difrifol, a buan y gwelodd gredu o'r arglwyddi a'r offeiriaid ei eiriau. Bu tawelwch hir, ac yna cododd Pharo gan dynnu modrwy oddi ar ei fys a'i rhoi ar law Ioseff.
"Edrych," meddai, "gosodais di'n bennaeth ar holl wlad yr Aifft."
* . . * . . * . . *
Aeth naw mlynedd heibio. Un dydd, ger neuadd fawr yn ninas Tanis oedai cwmni o fugeiliaid o Ganaan. Yr oedd golwg flinedig a newynog arnynt, a gorweddai eu hasynnod ar lawr yn ddiymadferth. Blin fuasai'r daith dros fryniau Canaan a thros ddiffeithwch crasboeth Sur, ac oherwydd y prinder yn eu gwlad, ychydig o fara a theisennau o wenith a fwytasent ar y daith. Ymhen ysbaid, agorodd drws mawr y neuadd,