Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yng nghanol tyrfa o bobl o lawer iaith a lliw, ymwthiodd y deg brawd drwyddo. Wedi aros eu tro, ymgrymasant o flaen Prif Weinidog yr Aifft a'i swyddogion. Eisteddai ef ar fath o orsedd, wedi ei wisgo mewn mantell o liain cain. Yr oedd cylch o aur am ei dalcen a chadwyn o aur am ei wddf, a disgleiriai gemau ar ei fynwes a modrwyau ar ei law.

"O b'le y daethoch?" gofynnodd drwy'r cyfieithydd.

"O wlad Canaan i brynu yd."

Curai calon Ioseff yn wyllt o'i fewn, ac anodd oedd ymatal rhag cofleidio a chusanu ei frodyr. Ond mynnai wybod eu helynt a hanes ei dad a'i frawd ieuangaf, Beniamin. Tybed a oedd yr hen ŵr tyner yn fyw o hyd? A Beniamin bach, nad oedd ond pum mlwydd oed pan adawsai Ioseff ei gartref, a dyfodd yntau'n llanc o fugail?

Meddyliodd am gynllun i gael gwybod eu hanes i gyd. Cyhuddodd hwy o fod yn ysbïwyr, ac wedi tridiau o garchar, gollyngodd naw ohonynt yn rhydd ar yr amod eu bod yn dwyn Beniamin gyda hwy y tro nesaf. Cadwyd un ohonynt, Simeon, yn y carchar. Rhoes Ioseff iddynt ddigon o fwyd ar gyfer y daith, ac ym mhob sachaid o yd a brynasent cuddiodd y swyddog yr arian a dalasent amdano.

Pan ddaethant o Ganaan yr ail dro, darparodd Ioseff wledd iddynt yn ei dŷ, a chychwynasant yn synn yn ôl a'u hasynnod yn dwyn sacheidiau mawr o ŷd. Yn sach Beniamin cuddiasai'r swyddog gwpan arian a charlamodd