Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar eu holau, gan eu cyhuddo o ladrata. Troesant yn ôl i'r plas yn drist ac ofnus, ac yno ni allai Ioseff guddio'i deimladau'n hwy. Cofleidiodd a chusanodd ei frodyr oll, ac wylodd ar ysgwydd Beniamin.

Ymhen ysbaid, gyrrwyd gwagenni a chaethion i ddwyn yr hen ŵr penwyn, Iacob, a'i holl deulu, i fyw i'r Aifft. Croesawyd hwy gan Pharo ei hun, a rhoddwyd iddynt dir ffrwythlon Gosen i fugeilio'u praidd arno.

* . . * . . * . . *

Dyna i chwi stori'r bugeiliaid ar fryniau Sichem. Ysgrifennwyd hi i lawr, ymysg llawer o storïau diddorol eraill, mewn llyfr y gwyddoch yn dda amdano. Ers llawer dydd, talodd ambell ffermwr yng Nghymru lwyth o wair am gael benthyg y llyfr hwnnw am ddiwrnod, ond gellwch ei brynu heddiw am ychydig geiniogau.

A glywsoch chwi erioed am Syr Walter Scott, nofelydd a bardd yr Alban? Rhai dyddiau cyn iddo farw, eisteddai'n wael yn ei lyfrgell fawr.

"Lockhart," meddai wrth ei fab yng nghyfraith, "darllen ychydig imi."

"O'r gorau," meddai Lockhart. "Pa lyfr a hoffech imi ddarllen ohono?"

"A oes angen iti ofyn? Nid oes ond un llyfr."

Cymerodd Lockhart y Beibl yn ei ddwylo a darllenodd yn dawel. Gwelai wên hapus ar wyneb llwyd Syr Walter. Yn y llyfrgell fawr nid oedd ond un llyfr.