Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV—IASON

YN y bennod hon awn yn ôl eto i Roeg, gwlad y chwedlau. Pe medrem grwydro i mewn i neuadd un o frenhinoedd Groeg un hwyr ryw dair mil o flynyddoedd yn ôl, gwelem y lle'n llawn o bobl yn eistedd i wrando storïau. Pwy sydd yn adrodd y storïau hyn? Na, nid pawb yn ei dro, oherwydd yr oedd dweud stori'n gelfyddyd anodd ei meistroli. I fardd y llys y rhoddid y gwaith, ac yr oedd ef yn delynor hefyd. Gwrandawai milwyr a gwragedd, ieuainc a hen, arno'n canu'r delyn ac yn sôn am arwyr y genedl. Pam na fuasent yn rhoi eu hamser i ddarllen llyfrau gyda'r nos fel y byddwch chwi? Nid oedd llyfrau i'w cael, ac felly o fardd i fardd y trosglwyddid y storïau i lawr o oes i oes.

Bach iawn oedd y byd i Homer. Gwyddai am lannau ac ynysoedd Môr Aegea ac am ogledd Affrig a'r Aifft, ond y tu draw i'r ffiniau hyn yr oedd gwledydd rhyfedd a dieithr. Llongau bach, nad oeddynt o fawr werth mewn stormydd geirwon, oedd gan y morwyr, ac ni fentrai'r un ohonynt ymhell iawn. Nid yw'n syn i'r beirdd greu chwedlau am ynysoedd a broydd dieithr, gan ddychmygu bod duwiau a duwiesau, cewri a chorachod, swynwyr a thylwyth teg yn byw arnynt. Mewn oes felly y tyfodd y stori am Iason a'i daith