Hercwlff eu herio'n gas, yno yr arhosent. Brwydrasant yn erbyn cewri â chwech o freichiau ganddynt, ac wedyn bu bron iddynt â chael eu gwasgu i farwolaeth gan ddwy ynys o rew a oedd yn cau'n sydyn am y llong. Collasant eu harwr cryfaf, Hercwlff, ar y daith, a buont am ddyddiau lawer yn nannedd ystormydd geirwon. Lladdwyd un o'r cwmni gan faedd gwyllt, a bu farw llywiwr medrus yr Argo. Mewn ofn y moriasant heibio i wlad yr Amasoniaid, cenedl o ferched anferth a dreuliai bob dydd yn trin cleddyf a phicell. Daeth hefyd lu o adar mawr milain, a chanddynt blu o bres fel saethau miniog, i ymosod arnynt a'u clwyfo.
O'r diwedd daethant i Golchis, gwlad y Cnu Aur, a chymerodd y brenin, Actes, arno fod yn falch iawn o'u gweld. Wedi iddynt fwyta, adroddodd Iason hanes y fordaith, a gwyliai llygaid mawr Medea, merch y brenin, ef â syndod ac edmygedd. Ni welsai hi erioed ŵr mor hardd a lluniaidd â hwn.
"Deuthum yma, O Frenin," meddai Iason, "i ddwyn y Cnu Aur yn ôl i Roeg, ac yna rhydd Pelias deyrnas fy nhad imi."
Edrychodd Aetes yn gas arno.
"Ni bu eich holl helyntion ond chwarae plant wrth y rhai sy'n eich aros," meddai. "Oni chlywaist ti, Iason, am beryglon antur y Cnu Aur?"
"Clywais fod sarff wenwynig yn ei wylio ddydd a nos," atebodd Iason.