Gwyliai Pelias wyneb y llanc, Iason, yn graff, a sylwodd ar y tân yn ei lygaid.
"Hy," meddai, "bu amser pan fentrwn i allan ar unwaith i chwilio am drysor felly, ond yr wyf yn awr yn hen. Nid yw gwŷr ieuainc heddiw mor eofn â'u tadau; nid oes yma neb yn ddigon dewr i wynebu'r daith."
Neidiodd Iason ar ei draed â'i lygaid yn fflam.
"Dyma un," gwaeddodd, "yn barod i chwilio am y Cnu Aur, yn barod hyd yn oed i farw yn yr antur."
"Pe dyget y Cnu Aur yn ôl i Roeg, ildiwn fy nheyrnas i gyd iti," meddai Pelias, gan gredu y collai Iason ei fywyd ymhell cyn cyrraedd Colchis.
Derbyniodd Iason yr her. Daeth o hyd i saer coed medrus o'r enw Argus, ac adeiladodd hwnnw, o bren y pinwydd, long gref ond ysgafn a lle ynddi i hanner cant o rwyfwyr. Argo y galwyd y llong, a chasglodd Iason iddi rai o'i hen gyfeillion o'r ogof ar fynydd Pelion a rhai o ddewrion enwocaf Groeg. Yn eu mysg yr oedd Hercwlff nerthol ac eofn, Peleus, tad Achiles y cawsom ei hanes gan Homer, ac Orffeus, y telynor swynol.
Wedi aberthu i'r dduwies Hera, troesant flaen y llong i gyfeiriad y dwyrain, ac yn sŵn telyn a chaneuon Orffeus y llithrodd drwy'r tonnau.
Fel Odyseus a'i gyfeillion, wynebodd dewrion yr Argo lawer o beryglon enbyd ar eu taith. Denwyd hwy i ynys yn llawn o ferched prydferth, ac oni bai i