Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan ddengys haul o'i gell
Binaclau'r ynys hon
Fel pyramidiau pell
Anghyfanedd-dra'r don.

Pan gyfyd, megis llef
Wedi distawrwydd hir,
Mynyddoedd yn y nef,
A thros y tonnau, tir.

Wedi cyrraedd y mynyddoedd hyn, mynyddoedd Cymru, hedodd trostynt i Gaer Saint yn Arfon a disgyn ar ysgwydd Brân. Ysgydwodd yr aderyn ei blu, oni ddarganfuwyd y llythyr, a thrist iawn oedd Brân o glywed am waradwydd Branwen. Cynhullodd fyddin fawr ar unwaith, a chychwynnodd tuag Iwerddon, gan adael ei fab, Caradog, a saith tywysog i ofalu am yr ynys hon. Nid aeth Brân ei hun mewn llong, gan ei fod yn ddigon mawr i gerdded trwy'r lli.

Yn Iwerddon rhuthrodd gwylwyr moch Matholwch o lan y môr at y brenin.

"Arglwydd, henffych well!" meddant.

"Duw a roddo dda i chwi," atebodd Matholwch.

"A oes rhyw newyddion gennych?"

"Arglwydd, y mae gennym ni newyddion rhyfedd. Coed a welsom ar y môr yn y lle ni welsom ni erioed un pren, a ger llaw y coed mynydd mawr a hwnnw'n symud, ac ar ben y mynydd ddau lyn."