Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI—CUCHULAIN, ARWR IWERDDON

NID Cymru, wrth gwrs, yw'r unig wlad a chanddi hen lawysgrifau gwerthfawr yn cynnwys storïau diddorol o'r gorffennol pell. Yn Iwerddon, er enghraifft, y mae dau hen lyfr y medrwch chwi, efallai, gofio'u henwau. Y cyntaf yw Llyfr y Fuwch Lwyd, enw a gafodd y llawysgrif oddi wrth y croen a ddefnyddid yn lle papur yn yr oes bell honno. Ysgrifennwyd y llyfr hwn mewn mynachdy unig ar lan yr afon Llinon (Shannon) dros wyth cant o flynyddoedd yn ôl. Y llall yw Llyfr Leinster, cyfrol fawr â'i dalennau o groen llo. Mynaich a fu wrthi'n ddyfal yn ysgrifennu'r llyfrau hyn, gan gadw ynddynt, nid yn unig hanesion am y seintiau a bywyd crefyddol y wlad, ond hefyd orchestion cewri paganaidd yn yr oesau pell cyn dyfod Cristionogaeth i'r tir. Am ganrifoedd maith cyn dyddiau'r mynaich fe ganasai'r beirdd eu cerddi am y gwroniaid hyn, ond i'r mynaich y mae'r diolch am eu rhoi ar gof a chadw. Erbyn hyn, y mae'r rhan fwyaf o'r storïau'n mynd yn ôl ryw ddwy fil o flynyddoedd.

Cuchulain, arwr Ulster, oedd gwron pennaf y beirdd a'r chwedleuwyr yn Iwerddon. Clywn amdano'n fachgen bach yn gwrando â syndod am fawredd Conor, brenin Ulster a brawd ei fam, ac am ddewrion y llys yn Emain Macha. Hiraethai am fod yno ymysg meibion yr arglwyddi, ac un diwrnod, pan nad oedd