ond pum mlwydd oed, gadawodd ei gartref, ar waethaf ei fam, a cherddodd dros y bryniau moel a chreigiog i'r llys. Derbyniwyd ef yn garedig gan ei ewythr, y brenin Conor, ac yn fuan synnodd yr holl lys at ei gryfder a'i ddewrder yn chwaraeon y bechgyn. Ei enw y pryd hwn oedd Setanta, a diddorol yw'r stori amdano'n cael ei alw yn Cuchulain. Un diwrnod, aeth y brenin Conor a holl bendefigion y llys i wledd yng nghastell gof a chrefftwr cywrain o'r enw Culain. Hwn oedd prif of Ulster, ac iddo ef y rhoddid y gwaith o wneuthur arfau a chleddyfau gorau'r llys. Wedi i bob un ohonynt gymryd ei le wrth y byrddau hir, troes Culain at y brenin.
"Fy Mrenin," gofynnodd, "a oes rhywun heb gyrraedd?"
"Na," atebodd Conor, "y mae pawb yma. Pam yr wyt yn gofyn?"
"Am yr hoffwn ollwng fy nghi mawr a ffyrnig yn rhydd i wylio'r castell. Y mae'n gryfach ac yn ffyrnicach na chant o gŵn cyffredin, ac ni faidd gelyn ddod yn agos i'r castell pan fo'r ci yn ei wylio."
"O'r gorau," meddai Conor. "Yn rhydd ag ef, ynteu!"
Gollyngwyd y ci, ac yna caewyd dorau mawr y castell. Gan ffroeni'r ddaear a chyfarth dros bob man, rhuthrodd y ci o amgylch y muriau ac yna gorweddodd â'i drwyn ar ei bawen o flaen y llidiart. Yr oedd yn barod i larpio pwy bynnag a ddeuai heibio.