Pwy a ddaeth ar hyd y ffordd ond y bachgen chwech oed, Setanta; rhedai'n hapus gan daro pêl â phastwn. a dilyn ôl ceffylau a cherbydau Conor o'r llys. Dechreuodd y ci mawr udo nes dychryn pawb yn y wledd, a phan ddaeth y bachgen yn nes neidiodd fel mellten tuag ato gan ysgyrnygu ei ddannedd hir. Ond taflodd Setanta ei bêl i mewn i safn agored y ci, trawodd ef â'i bastwn, ac yna gafaelodd yn ei goesau ôl a hyrddiodd ef yn erbyn craig nes ei ladd.
Rhuthrodd y milwyr allan o'r wledd, a phan welodd y gof, Culain, ei hoff gi yn farw yr oedd yn drist iawn.
"Yn awr," meddai wrth Conor, "bydd y bleiddiaid a'r lladron yn difetha fy ngwartheg a'm defaid a'm holl eiddo."
"Peidiwch â gofidio, Culain," meddai'r bachgen. "Mi ofalaf i na ddigwydd hynny."
"O?" atebodd y gof yn syn. "Beth, tybed, a elli di ei wneud?"
"Chwiliaf y wlad i gyd am gi tebyg iddo, a magaf ef i gymryd lle'r ci a leddais. Hyd hynny, byddaf i fy hun yn gi i chwi, a gwyliaf eich tŷ a'ch praidd. Yr wyf cyn gyflymed ar fy nhroed ag unrhyw gi."
Felly y galwyd Setanta yn Cuchulain—hynny yw, Ci Culain—a phroffwydodd hen Dderwydd doeth y byddai ei enw ar bob tafod cyn hir.
Un dydd, ryw flwyddyn wedyn, digwyddodd i Guchulain glywed un o'r Derwyddon yn rhoi gwers i nifer o'r bechgyn hynaf ar y glaswellt allan yn yr haul.