Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII—Y TYWYSOG AHMAD

(O "Nosau Arabia")

EFALLAI fod y stori a gawsom yn y bennod ddiwethaf braidd yn newydd a dieithr i rai ohonoch, ond yr wyf yn siwr i chwi oll glywed am Nosau Arabia, casgliad o storïau melyn yn llawn rhamant, lliw a doethineb y Dwyrain. Y mae'n debyg y cofiwch eich athro neu'ch athrawes yn adrodd wrthych am Sindbad y Morwr, am Aladin a'i lamp ryfeddol, ac am Ali Baba a'r deugain lladron.

Y mae'r storïau hyn yn hen iawn er na chopïwyd hwy i lawr mewn llawysgrifau Arabeg hyd y drydedd ganrif ar ddeg. Efallai iddynt gychwyn yn India, ac adroddwyd hwy wedyn am flynyddoedd ym Mhersia cyn cyrraedd Arabia, gwlad y chwedleuwyr medrus a'u lliwiodd mor gain. O oes i oes cynhyddai'r storïau mewn maint a rhif, ac aent yn brydferthach o hyd.

"Difyrrwch Mil ac Un o Nosau" yw enw llawn y casgliad hwn. Yn ôl hen chwedl, wedi i'w wraig gyntaf fod yn anffyddlon iddo, priodai brenin ym Mhersia ferch ieuanc bob dydd, a'r bore trannoeth torrai ei phen i ffwrdd. O'r diwedd daeth tro Shahrazad, merch y Prif Weinidog, a noson ei phriodas dechreuodd adrodd stori wrth y brenin ond gan ofalu ei gadael heb ei gorffen. Cadwodd y brenin hi'n fyw drannoeth er mwyn cael clywed gweddill y stori.