Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Felly, o nos i nos, adroddodd Shahrazad ei storïau difyr, ac am fil ac un o nosau gwrandawodd y brenin mewn syndod gan ei chadw'n fyw o hyd i adrodd ychwaneg. Yn y diwedd aeth yn hoff iawn ohoni.

Erbyn heddiw gwrendy'r byd i gyd ar storïau Shahrazad, ac yn awr yr wyf am i chwithau wrando ar ei llais hyfryd yn sôn am helyntion y Tywysog Ahmad.

Yr oedd gan Swltan, neu frenin, yn India dri mab—Husayn, yr hynaf, Ali, yr ail, ac Ahmad, yr ieuangaf. Yn y llys hefyd o dan ofal y Swltan yr oedd merch i'w frawd, y Dywysoges Nur al—Nihar. Ystyr ei henw oedd "Goleuni'r Dydd," ac, yn wir, nid oedd tywysoges yn India fawr mor dlos a hoenus â hon. Magwyd hi'n dyner gan y Swltan wedi marw ei frawd, a hi oedd cannwyll ei lygad.

Pan ddaeth yr adeg iddo chwilio am dywysog o wlad arall yn ŵr i Nur al—Nihar, sylweddolodd y Swltan fod ei dri mab mewn cariad â hi. Siaradodd â'r tri gan geisio perswadio pob un ohonynt i garu rhywun arall, ond nid oedd dim a ddywedai yn tycio. Felly, wedi meddwl yn hir dros y peth, galwodd ei dri mab ato i'w ystafell.

"Fy meibion," meddai, "gan na allaf eich perswadio i anghofio'ch cyfnither, Nur al—Nihar, meddyliais am gynllun i benderfynu rhyngoch. Yr wyf am i'r tri ohonoch gymryd blwyddyn i grwydro ymhell i wledydd. dieithr; cewch weision ac arian o'r llys at y daith.