Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I hwnnw a ddaw o hyd i'r trysor mwyaf prin a hynod y rhoddaf Nur al-Nihar yn wraig."

Heb oedi dim, cychwynnodd y meibion y diwrnod hwnnw ar gefnau eu ceffylau gan wisgo dillad marchnadwyr. Teithiasant yng nghwmni ei gilydd nes iddynt gyrraedd, gyda'r nos, dafarndy a safai ar groesffordd. Oddi yno cychwynnai tair ffordd i wahanol gyfeiriadau, a'r bore trannoeth dewisodd y tri brawd bob un ei ffordd gan addo cyfarfod yn yr un lle ymhen blwyddyn. Yr oedd pwy bynnag a gyrhaeddai yno gyntaf i aros hyd nes dyfod o'r lleill.

Ymunodd Husayn, yr hynaf, â charafan a deithiai i ran arall o India. Am dri mis bu'n crwydro dros leoedd anial a thrwy fforestydd tywyll, ac yna heibio i gaeau ffrwythlon a phentrefi a gerddi tlysion. Cyrhaeddodd Bishangarh, prif ddinas De India, a throes i'r farchnad fawr gan ryfeddu at gyfoeth a harddwch y lle. Yno yr oedd llieiniau wedi eu haddurno â lluniau adar a choed a blodau, sidanau a phali gwerthfawr o Bersia a'r Aifft, llestri gwydr cain eu lliw o China, a gemau a thlysau lawer. Syllodd Husayn hefyd ar y cwpanau aur ac arian, ac ynddynt disgleiriai rhuddem ac emrallt a diemwnt nes goleuo'r farchnad i gyd. Gwisgai'r merched sidanau cain a pherlau llachar, ac yr oedd gan hyd yn oed y caethion yn y ddinas gyfoethog hon freichledau o aur â gemau'n fflachio ynddynt. Gwerthid blodau ym mhob rhan o'r farchnad, a gwisgai pawb, tlawd a chyfoethog, flodau