amryliw. Cariai rhai flodeuglwm yn eu dwylo, rhwymai eraill goron o ddail a blodau o amgylch eu pennau, ac yr oedd gan lawer raffau o flodau'n hongian dros eu hysgwyddau. A hyfryd oedd y persawr yn yr awel.
Yn flinedig braidd, eisteddodd Husayn mewn siop gan wylio â syndod yn ei lygaid y bobl a âi heibio. Yna gwelodd farchnadwr yn y stryd gerllaw, ac yn ei ddwylo yr oedd carped bychan digon cyffredin yr olwg.
"Faint am hwn?" gwaeddai'r marchnadwr. "Faint am hwn? Pwy a rydd imi ei werth? Deng mil ar hugain o ddarnau aur! Deng mil ar hugain mewn aur!"
Galwodd Husayn arno ato a chymerodd y carped yn ei ddwylo.
"Byddai ychydig ddarnau o arian yn ddigon am hwn," meddai. "Pa rinwedd arbennig sydd ynddo i wneud ei bris mor uchel?"
"Rhaid i'm meistr gael deugain mil mewn aur amdano," meddai'r marchnadwr. "Pwy bynnag a eisteddo ar y carped hwn a dymuno mynd i rywle bydd yn y lle hwnnw ar drawiad amrant."
"Hawdd yw dweud hynny," meddai Husayn.
"Hawdd yw ei brofi hefyd," oedd ateb y marchnadwr. "Ym mh'le'r ydych yn aros?"
"Mewn tafarndy gerilaw mur y ddinas," atebodd Husayn.
"Eisteddwn ar y carped, ynteu, a dymunwn ein dau gael bod yn y tafarndy."