Cyn gynted ag yr eisteddasant ar y carped a dymuno mynd i'r gwesty, yno yr oeddynt. Mewn llawenydd rhoes Husayn ddeugain mil mewn aur am y carped a rhoes ugain mil arall i'r marchnadwr. "Ni ddaw yr un o'm brodyr ar draws trysor fel hwn," meddai wrtho'i hun.
Treuliodd Husayn rai misoedd ym Mishangarh gan wylio bywyd ac arferion y ddinas fawr. Aeth i weld y pagodau santaidd, rhai wedi eu hadeiladu o bres ac ôl llaw y cerfiwr medrus ar y muriau heirdd. Ymysg llwyni o rôs a siasmin safai eraill yn golofnau o farmor gwyn, a bwa pob tŵr wedi ei gerfio'n gain. I mewn yr oedd rhes ar res o ddelwau, a gemau'n llygaid i bob un. I'r pagodau hyn casglai'r bobl yn dyrfaoedd, a deuai pererinion hefyd o bell gan ddwyn aur ac arian ac anrhegion gwerthfawr i'r duwiau. Sylwodd Husayn hefyd ar y defodau a'r seremonïau rhyfedd, ac ar y chwaraeon, y gwledda, a'r dawnsio, o amgylch y pagodau.
Felly y treuliodd fisoedd difyr ym Mishangarh a phan dynnai'r flwyddyn tua'i therfyn eisteddodd ar y carped gyda'i geffyl a'i weision ac mewn eiliad yr oedd yn ôl yn y tafarndy lle y ffarweliodd â'i frodyr.
Beth a ddigwyddodd i Ali, yr ail frawd? I Bersia yr aeth ef, gan aros, wedi pedwar mis o deithio, mewn dinas o'r enw Shiraz. Yno, yn y farchnad, daeth ar draws gŵr yn ceisio gwerthu corn bychan o ifori am ddeng mil ar hugain o aur. Synnodd Ali ei fod yn