hawlio cymaint am rywbeth mor ddisylw, a gofynnodd iddo paham yr oedd y pris mor uchel.
"Y mae gwydr bychan ym mhob pen i'r corn," oedd ateb y dyn. "Beth bynnag a ddymuni ei weld drwyddo, er i'r peth hwnnw fod gannoedd o filltiroedd i ffwrdd, fe'i gweli."
Gafaelodd Ali yn y corn a rhoes ef wrth ei lygad gan ddymuno gweld ei dad, y Swltan. Er ei syndod gallai ei weld yn eistedd yn iach a hoenus ar ei orsedd. Gwelodd hefyd y Dywysoges Nur al-Nihar yn siarad a chwerthin ymysg ei morynion.
"O, f'Arglwydd," meddai'r gŵr a geisiai werthu'r corn iddo, "dywaid fy meistr na chymer lai na deugain mil mewn aur amdano."
Talodd Ali'r pris yn llon ac am rai misoedd crwydrodd drwy rannau o Bersia cyn dychwelyd i'r tafarndy ar y groesffordd. Yr oedd Husayn yno'n ei aros.
Dilynasai Ahmad, y brawd ieuangaf, y ffordd i Samarcand, ac ym marchnad y ddinas honno daeth gŵr ato gan gynnig afal iddo am bymtheng mil ar hugain o ddarnau aur.
"Paham y mae mor ddrud?" gofynnodd Ahmad.
"Cymerwyd blynyddoedd maith i wneud yr afal hwn," oedd yr ateb. "Gwnaed ef gan hen ŵr doeth trwy gymysgu meddyginiaethau a llysiau lawer. Beth bynnag fo'r clefyd neu'r clwyf arno, dim ond i rywun gwael arogleuo'r afal hwn a bydd yn holliach."