chwe mis fynd heibio daeth hiraeth arno am weld ei dad, y Swltan. Er na hoffai o gwbl iddo'i gadael, caniataodd ei wraig iddo fynd, canys yr oeddynt erbyn hyn wedi priodi.
"Dyma iti ugain o filwyr arfog ar geffylau heirdd," meddai, "a march harddach na'r cwbl i tithau. Dos, ond cofia na chei ddweud gair wrth neb amdanaf i nac am dy briodas nac am y lle hwn."
Ar geffyl cyflymach na gwynt yr ystorm a gemau llachar hyd gyfrwy a ffrwyn cyrhaeddodd Ahmad lys ei dad. Cafodd groeso mawr gan y Swltan a chan wŷr y llys.
"Buom yn chwilio amdanat ym mhobman am fisoedd," meddai'r Swltan. "Ym mh'le y buost ti?"
Nid atebodd Ahmad, ond addawodd y deuai i weld ei dad unwaith bob mis.
Felly, unwaith bob mis, bob tro y llithrai hanner-lleuad i wybren y Gorllewin, ymwelai Ahmad â'r llys ac edrychai pawb mewn syndod arno ef a'i filwyr gwych. Âi ei osgordd yn fwy ac yn harddach bob tro, a dechreuodd un Cynghorwr drwg sibrwd yng nghlust y Swltan fod Ahmad yn decach ei wisg ac yn gyfoethocach nag ef ei hun.
"Beth pe bai'n troi'n fradwr ac yn dod â byddin yn dy erbyn?" meddai. "Beth pe bai am ddial arnat am golli Nur al-Nihar?"
Aeth y Swltan yn aflonydd ei feddwl a galwodd ddewines gyfrwys i'w ystafell. Cuddiodd honno yn y