Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hun mewn plas gwych, anferth. Daeth tywysoges neilltuol o brydferth i'w gyfarfod, tlysach o lawer na Nur al-Nihar. Yr oedd ei gwisg o sidan cain, a fflachiai holl liwiau'r enfys yn ei pherlau drud. Ymgrymodd ei morynion teg o'i flaen.

"Croeso iti, y Tywysog Ahmad," meddai wrtho gan ei arwain i neuadd gyfoethog, â bwa mawr y to wedi ei gerfio'n goeth. Yr oedd y muriau o farmor gwyn wedi eu haddurno ag aur ac â darluniau heirdd. Yno llosgai canhwyllau wedi eu perarogli ag ambyr, a syllai Ahmad mewn syndod ar y morynion teg, y sidanau amryliw, y llestri cywrain a gerfiwyd mewn aur, a'r perlau gwerthfawr a ddisgleiriai ym mhobman. Ac o rywle deuai nodau swynol offerynnau cerdd. Yr oedd y plas hwn yn harddach nag unrhyw freuddwyd.

Arweiniodd y Dywysoges ef i lwyfan bychan gan ei roi i eistedd ar orsedd o berlau drud.

"Yr wyt ym mhlas y Tylwyth Teg," meddai wrtho, "a'm tad i yw eu brenin. Fy enw i yw Peri-Banu. Myfi a yrrodd dy saeth di mor bell er mwyn dy hudo di yma yn ŵr i mi ac yn Dywysog y Tylwyth Teg. Oherwydd. yr wyf yn dy garu, Ahmad."

Yn fuan, mewn ystafell odidocach fyth, eisteddasant i fwyta, ac yr oedd pob math o seigiau ar y bwrdd, a gwin mewn ffiolau o aur a gemau. Yna daeth côr y Tylwyth Teg i ganu a dawnsio iddynt.

Treuliodd Ahmad fisoedd hapus yn y plas a'i serch at y Dywysoges yn cynhyddu bob dydd. Ond wedi i