Tudalen:Storïau Mawr y Byd.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Fy meibion," meddai, "ni fedraf yn fy myw benderfynu rhyngoch. Y mae'n wir mai afal Ahmad a iachaodd fy nith, ond ni fuasai'r afal o unrhyw werth onibai i'r corn ifori ddangos i chwi ei bod yn wael, ac i'r carped hwn eich cludo mor gyflym i'w hystafell. Bu'r tri thrysor mor werthfawr â'i gilydd. Yn awr y mae gennyf gynllun arall. Ewch allan, bob un ar ei farch, i'r maes mawr y tu draw i furiau'r ddinas. Cymerwch fwa a saeth, ac i'r neb a saetho bellaf y rhoddaf Nur al-Nihar yn wraig."

Ar y maes casglodd tyrfa fawr o wyr y llys i wylio'r saethu. Aeth saeth Husayn yn bell iawn, ond curwyd ef gan Ali, yr ail frawd. Saethodd Ahmad yn olaf, ond er chwilio a chwilio, methwyd yn lân a dod o hyd i'w saeth ef, er y credai pawb iddi fynd ymhellach nag un o'r lleill. Felly rhoes y Swltan ei nith brydferth, Nur al-Nihar, yn wraig i Ali, ei ail fab.

Bu'r briodas ymhen ychydig ddyddiau, ond nid oedd Husayn nac Ahmad yno. Penderfynasai Husayn roi heibio bob urddas fel mab y Swltan a throi yn feudwy, gan ddewis byw'n dlawd ac unig mewn lle anghysbell. Yn lle mynd i'r briodas, aeth Ahmad i chwilio am ei saeth, ac wedi cerdded yn hir, daeth at greigiau serth a miniog. Er ei syndod gwelai ei saeth yn gorwedd ar un ohonynt. Gerllaw yr oedd rhyw fath o ogof ac ynddo ddrws mawr o haearn, Mentrodd Ahmad drwy'r drws, ac ar ôl cerddedd drwy'r ogof â llusernau disglair yn hongian wrth ei tho fe'i cafodd ei