Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwragedd a'r plant yn gorfod gweithio hefyd am oriau hir iawn bob dydd.

12. Gwael iawn oedd eu tai, er eu bod yn talu'n ddrud amdanynt. Amser caled oedd hwnnw i weithwyr ym mhobman.

13. Cyn hir daeth dyn da i ddadlau eu hachos, i fynnu chwarae teg iddynt, a dangos i'r byd y modd y dylid eu trin.

14. Robert Owen oedd ei enw. Ganwyd ef yn y Drefnewydd, Sir Drefaldwyn, yn 1771.

15. Er prinned oedd addysg yr amser hwnnw, dysgodd Robert Owen ddarllen, ysgrifennu, ac ychydig rifyddeg.

16. Bu raid iddo ddechrau gweithio mewn siop pan nad oedd ond naw mlwydd oed. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen. Daeth ymlaen yn gyflym.