Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

11. Ar ôl hynny aeth i'r coleg. Bu'n weinidog, a bu'n olygydd papur pwysig yn Llundain.

12. Fe'i galwodd ei hun yn "Ieuan Gwynedd." Dyna'i enw Dyna'i enw gan bawb heddiw. Y mae llawer Evan Jones yng Nghymru. Nid oes dim ond un Ieuan Gwynedd.

13. Daeth yn ddyn o ddysg a dylanwad yn ei wlad ei hun ac yn Llundain. Yr oedd yn fawr ei barch gan Gymry a Saeson.

14. Bu 1847 yn flwyddyn ddu i Gymru. Bu dynion yma ar ran y Llywodraeth yn edrych beth oedd cyflwr addysg yn y wlad, a sut oedd y bobl yn byw.

15. Yn eu Hadroddiad, dywedasant lawer o bethau nad oeddynt yn wir