Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am Gymru. Bu hyn yn ofid blin i'r genedl.

16. Pwy ddaeth i sefyll ar ran Cymru ar yr awr ddu honno yn ei hanes? Ieuan Gwynedd.

17. Gwnaeth ef i'r byd weld nad oedd yr Adroddiad yn gywir. Dynion heb fedru iaith Cymru ac felly heb ddeall ei phobl oedd wedi ei ysgrifennu.

18. Ni all neb ddeall pobl yn iawn heb fedru eu hiaith a byw yn eu plith.

19. Bu Ieuan, â'i bin ysgrifennu, yn ymladd yn ddewr dros enw da Cymru. Gwnaeth fwy o waith na llawer milwr. Enillodd frwydr fawr.

20. Erbyn hyn, y mae'r ddwy genedl yn deall ei gilydd yn well. Y mae llawer o Saeson yn byw yng Nghymru,