Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a llawer o Gymry'n byw yn Lloegr, a'r naill yn parchu'r llall.

21. Gwnaeth Ieuan lawer o bethau eraill dros ei wlad. Ef oedd y cyntaf i ddwyn allan lyfr i roddi addysg i ferched Cymru. "Y Gymraes" oedd enw'r llyfr hwnnw.

22. Yn ei amser ef, anaml y câi merched ddysgu dim ond gwaith tŷ. Gwelodd Ieuan nad oedd hynny'n deg.

23. Caiff merched heddiw gystal addysg â bechgyn. Ieuan Gwynedd oedd y cyntaf yng Nghymru i ddangos mai felly y dylai fod.

24. Bu farw pan nad oedd ond deuddeg ar hugain oed. Gwnaeth waith mawr mewn oes fer. Y mae ei fedd ym mynwent y Groeswen.