Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llundain. Wedi hynny bu'n Aelod Seneddol.

6. Ar hyd ei oes gweithiodd yn galed dros Gymru. Gyda Ieuan Gwynedd, gwnaeth ei orau i ddwyn yn ôl enw da Cymru ar ôl helynt 1847.

7. Gwnaeth ei ran hefyd i godi Cymru mewn addysg. Bu ef a dynion da eraill yn arwain ei wlad ar amser pwysig yn ei hanes.

8. Ond gwnaeth Henry Richard rywbeth na wnaethai'r un Cymro arall o'i flaen. Hwnnw oedd gwaith mawr ei fywyd ef. Am y gwaith hwnnw y cofia'r byd amdano.

9. Henry Richard ac un dyn arall,—Elihu Burrit o America—oedd y rhai cyntaf i geisio cael cenhedloedd y byd i setlo'u cwerylon heb ryfel.