Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

10. Sut y gallai dau ddyn felly ddwyn i ben waith mor fawr? Y mae dechrau i bopeth.

11. Galwodd y ddau ar nifer o bobl o bob gwlad i ddyfod at ei gilydd i siarad am y peth. Daeth dau cant o bobl ynghyd. Ym Mrussels, yn 1848, y bu hyn.

12. Hon oedd y "Gynhadledd Heddwch gyntaf. Ar ôl hynny bu Henry Richard yn teithio trwy Ewrop yn ceisio dysgu pobl mai peth drwg a ffôl yw rhyfel.

13. Y mae plant pob gwlad wedi eu dysgu mai yn 1815 y bu brwydr Waterloo. Peth mwy pwysig oedd Cynhadledd Heddwch Brussels yn 1848.

14. Bu llawer Cynhadledd Heddwch wedi'r un gyntaf honno. Gwnaed