Gwirwyd y dudalen hon
9. Y mae ceisio anghofio'n hiaith ein hunain yn beth mor ffôl â cheisio anghofio'n mam neu'n tad.
10. Cyn iddi fynd yn rhy ddiweddar, cododd llawer o ddynion da i ddysgu'r bobl am werth eu hiaith. Un o'r rhai a wnaeth fwyaf â'r gwaith hwn oedd Syr Owen M. Edwards.
11. Daeth allan â llu o lyfrau Cymraeg da, yn ddigon rhad fel y gallai pawb eu prynu.
12. Fel hyn daeth pobl i wybod am y pethau rhagorol a ysgrifennwyd gan Gymry yn eu hiaith eu hunain. Nid oedd yr ysgolion wedi dysgu neb am y rhai hyn.
13. Daeth â "Cymru'r Plant" a'r "Cymru" allan bob mis. Ei amcan oedd dysgu ei gyd-genedl—y plant a'r