Gwirwyd y dudalen hon
bobl mewn oed—i fod yn falch eu bod yn Gymry, ac i fod yn falch o'u hiaith.
14. Erbyn hyn, dim ond pobl anwybodus iawn sydd am wadu eu gwlad a'u hiaith. Y mae gwaith Syr Owen M. Edwards, ac eraill a fu'n gweithio gydag ef, yn dwyn ffrwyth.
15. Ysgrifennodd Syr Owen lawer o lyfrau i blant ac i bobl mewn oed. Heblaw hynny, anogodd eraill i ysgrifennu.
16. Gwaith plant a phobl ieuainc oedd llawer o ysgrifau "Cymru'r Plant" a'r "Cymru." Fel hyn magodd do o lenorion a beirdd. Amcan ei fywyd oedd "codi'r hen wlad yn ei hôl."
17. Ganed ef yn Llanuwchllyn yn 1859. Bu farw yn 1920.