Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

4.
Dewi Sant.
Y Cymro Iawn.

1. Pan oedd Dewi Sant yn byw yr oedd pobl Rhufain wedi mynd ers amser hir yn ôl i'w gwlad.

2. Ond ni chafodd y Cymry gadw eu gwlad eu hunain wedi'r cwbl. Daeth pobl eraill yma mewn llongau mawr dros y môr.

3. Aeth y rhai hyn â'r rhan orau o'r wlad, a gyrru'r Cymry o'u blaen tua'r gorllewin.

4. Yno, yn lle tir gwastad, bras, yr oedd llawer rhos lom a llawer mynydd uchel.

5. Y rhan honno yw Cymru, ein gwlad ni heddiw. Y Gymraeg, yr iaith