Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd gan yr hen Gymry, yw'n hiaith ni. Y bobl sydd yn byw yn y rhan arall o'r wlad yn awr yw'r Saeson.

6. Tywysog oedd Dewi Sant, ond aeth o lys y brenin, a bu fyw fel dyn tlawd.

7. Ei hoff waith ef oedd mynd ar hyd y wlad i sôn wrth y bobl am y gwir Dduw. Yr oedd tyrfa'n gwrando arno bob dydd.

8. Cyn hynny, eu duwiau hwy oedd yr haul, a'r lleuad, a'r môr, a'r mynydd, a'r afon, a llawer peth arall.

9. Dysgodd Dewi hwy mai'r Duw a wnaeth y pethau hyn i gyd yw'r unig Dduw sydd yn bod.

10. Enw ar ddyn da iawn yw Sant. Yr oedd yma lawer Sant y pryd hwnnw, ond y gorau o'r cwbl oedd Dewi Sant.