Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

5. Yr oeddynt yn anwybodus iawn. Ni wyddent yn aml pa beth oedd yn dda na pha beth oedd yn ddrwg.

6. Nid oedd neb wedi eu dysgu pa fodd i fyw. Gwelodd y Ficer mai hyn oedd ei waith ef.

7. Credai mai trwy bregethu iddynt y gallai wneud hyn. Nid oedd gwell pregethwr nag ef yn y wlad. Deuai pobl o bell ac agos i wrando arno.

8. Ond gwelai'r Ficer nad oedd un o bob cant ohonynt yn deall ei eiriau nac yn medru darllen y Beibl.

9. Er bod y Cymry wedi cael y Beibl yn eu hiaith eu hunain, yr oedd, ar yr amser cyntaf hwnnw, yn rhy ddrud i bob teulu ei brynu.

10. Dim ond yn yr Eglwys ar y Sul y caent glywed ei ddarllen. Nid