Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Storïau o Hanes Cymru cyf I.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyfedd eu bod yn anwybodus iawn ac yn isel eu moes.

11. Ceisiodd y Ficer feddwl am ryw ffordd i'w gwella. Gwelodd mor hoff o ganu oeddynt. Clywai hwynt yn canu hen ganeuon gwael bob dydd.

12. Gwnaeth nifer fawr o benillion ar yr un mesur â'r caneuon hyn, yn dangos y ffordd i fyw'n iawn, ac yn rhai hawdd i'w cofio a'u canu.

13. Dysgid y penillion hyn yn yr eglwys. Aeth y bobl yn hoff iawn ohonynt. Canent hwy wrth eu gwaith, ac aethant trwy'r wlad i gyd.

14. Gwnaed y penillion yn llyfr. Ei deitl yw "Cannwyll y Cymry." Daeth y llyfr â golau i Gymru mewn amser tywyll iawn, a daeth newid mawr ar fywyd trwy Gymru gyfan.