Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y nos, yr oedd Lion wedi cyrhaedd y siop lle y gwasanaethai y bachgen, sef yn nhop James Street, Lerpwl, a'r trywsers yn ei geg. Ac yr oedd у ci a'r trywsers yn berffaith sych. Tybid fod Lion wedi gwylio yr adeg yr oedd y pacet yn Birkenhead yn myn'd drosodd, a'i fod, yn ddigon digywilydd, wedi croesi yr afon heb yr un tocyn. Pan glywodd Mr. Tait hanes y ci, prynodd ef gan yr hogyn, a bu yn ei feddiant am lawer o flynyddoedd.

Dyma iti stori arall. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dweyd wrthot ti o'r blaen fy mod yn gydnabyddus â theulu Mr. Roberts, Queen's Road, Lerpwl. Bu Mr. Roberts farw yn gydmarol ieuanc, gan adael gweddw ac amryw blant ar ei ol, ond mewn sefyllfa led gysurus Yr oedd gan y teulu hwn eto ryw berthynas yn tradio efo'r gwledydd pell, a dygodd yntau gi Newfoundland i un o'r plant. Sultan, os wył yn cofio, oedd ei enw, ac yr oedd rhywbeth mor fawr a brenhinol yn ngolwg y ci, fel yr oedd yr enw yn eithaf priodol arno. Nid oedd neb wedi gweled dim tuedd at fryntni ynddo, ac os byddai cwn bach yn cyfarth arno, edrychai gyda diystyrwch boneddigaidd arnynt. Meddyliai y teulu gymaint o hono fel y byddai yn cael gorwedd ar