ei fwyta yn fyw, ac eto ni fynasai am y byd ymadael âg ef, am mai rhodd ei ewyrth ydoedd. Ni wyddai pa beth i'w wneud. Ond yn y man, penderfynodd pan gyntaf yr elai gartref, y cymerai у ci gydag ef, ac y gadawai ef yno am na fyddai i'w rïeni wybod am ei gadw. Ac felly y gwnaeth. Cafodd yr hogyn ganiatad i fyn'd adref ar ddydd Gwener, gyda gorchymyn iddo ddychwelyd ddydd Llun, a chymerodd Lion, gydag ef—dyna oedd enw y ci. Dotiai pawb at y ci, ac yr oedd ei balfau fel palfau llew yn union, a dydd Sadwrn a'r Sul yr oedd cryn edrych ar Lion. Dydd Llun a ddaeth, pryd yr wedd yn rhaid i'r bachgen ddychwelyd gyda'r tren cyntaf, a chlymodd Lion i fynu yn un o'r ystablau. Cyn cychwyn am Lerpwl y bore hwnw, newidiodd yr hogyn ei drywsers, a gadawodd ei hen drywsers wedi ei lapio yn daclus ar gadair yn yr ystafell y bu yn cysgu ynddi. Rywbryd yn y prydnawn gollyngwyd Lion yn rhydd. Chwiliodd yma ac acw am y bachgen, ond, wrth gwrs, yr oedd ef erbyn hyn yn Lerpwl. Wedi chwilio pob twll a chornel aeth Lion i'r llofft lle y buasai y bachgen yn cysgu, a chymerodd y trywsers a adawyd ar y gader yn ei geg, ac ymaith ag ef er gwaethaf pawb. Cyn
Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/101
Gwedd